Friday 1 July 2011

Agoriad Swyddogol

Ar nos Wener, Gorffennaf yr 8ed, cynhelir agoriad swyddogol Y Pengwern yn Llan Ffestiniog.

Ar ôl i’r Pengwern Arms Hotel gau ym mis Chwefror 2009 sefydlwyd Pengwern Cymunedol fel menter gymunedol i brynu, ail agor a datblygu Tafarn a Gwesty’r Pengwern ac ers diwedd mis Mawrth 2011 y gymuned sy’n berchen ac yn rheoli Y Pengwern. Trwy ymdrechion gwirfoddol llwyddwyd i gymoni a gwella rhannau o adeilad Y Pengwern a bellach ail agorwyd y dafarn a’r ystafell gweithgareddau.

Mae gwahoddiad cynnes i gynrychiolwyr y wasg a’r cyfryngau i fynychu’r agoriad swyddogol. Eisoes mae rhaglen Wedi 7 S4C wedi trefnu i ddarlledu’n fyw o’r Pengwern ar y noson.

Bydd rhaglen noson yr agoriad yn rhedeg o 6.00 p.m. ymlaen. Perfformir yr agoriad swyddogol gan yr Aelod Cynulliad lleol, Dafydd Elis Thomas.Bydd cynrychiolwyr Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Ffestiniog a nifer o’r cyrff fu’n gefnogol i’r Pengwern yn bresennol yn ogystal ag aelodau a chefnogwyr lleol Pengwern Cymunedol.

Hefyd bydd nifer o artistiaid a doniau lleol yn cyfrannu mewn gair a chân i’r noson.

Am fanylion ynglyn â’r Pengwern gweler Taflen Wybodaeth Pengwern Cymunedol.

CYSWLLT  Sel Williams  sel@bangor.ac.uk   Ffôn:  0776 049 0081

Y Pengwern, Sgwar yr Eglwys, Llan Ffestiniog, Gwynedd. LL41 4PB
E bost:                     pengwerncymunedol@googlemail.com
Gwefan:                   www.pengwerncymunedol.btik.com
Gwefan y Tafarn:     www.pengwern.org.uk
Ffôn y Pengwern:    01766 762200

No comments:

Post a Comment